Dod yma’n academaidd wnaethom ni i’th brofi braidd, gweld ynot bryd egsotic a gwledd, wrth i’r bys roi’i glic ar bob tamed, a wedyn dewis o’r sgrin y gwin gwyn, (roedd bwydlen d’awen di yn waedd am siampên heddi). Ond dan gysgod llygoden, nid yw’r wefr ac nid yw’r wên yn gloywi, ac alawon lliw llwyd yw’r lleddf fel y llon: weithiau, mae tameidiau mân yn ofer – rhaid y cyfan. Rhaid dod, nid fesul nodyn i ddawns y cywyddau hyn, am nad all llythyren fyth ddal enw, nid rhan o’r llinell yw’r trai na’r llanw, na serch dan leuad, na chariad chwerw – yr afon, nid diferion sy’n ferw. O gael y ‘darnau’ gwelw - colli’r hud. Ond a’i gael i gyd – ei gael i’w gadw. O’i gael i gyd, daw byd y coed bedw inni’n llawn, ac ar fy llw, daw â’r haf i goed yr ynn a rhoi i’r deri’u hadreyn, rhoi’r wylan uwch yr heli a rhoi i’r nos ei heos hi, rhoi cân ym mrigau’r cyll, yna’n ysgafn, fel plu’r esgyll, rhoi dy air i’m rhwydo i â harddwch dy holl gerddi.
Yn rhy gall, ni ddeallwn, ond drwy’r we, a thu draw i’r memrwn, fe ddaw hud y Dafydd hwn yn fyw heddi. Rhyfeddwn!